MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
• Yn ychwanegol at rôl Cynorthwyydd Addysgu 2 (Generig):
• Gweithio dan gyfarwyddyd staff addysgu/staff uwch ac o dan system oruchwylio y cytunwyd arni, i roi rhaglenni gwaith cytunedig ar waith gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu hwnt iddi, ymdrin ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rheini y mae angen gwybodaeth fanwl ac
arbenigol arnynt mewn meysydd arbennig a bydd yn golygu cynorthwyo'r athro yn y cylch cynllunio cyfan ac i reoli/paratoi adnoddau. Efallai hefyd bydd y staff yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan weithiau yn ystod absenoldeb tymor byr athrawon. Y prif ffocws fydd cadw trefn dda a chadw'r disgyblion yn canolbwyntio ar eu tasg.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio'n sylweddol ar ddysgu a lles unigolion neu grwpiau drwy gyfrannu at asesu angen a chynnydd disgyblion, datblygu a gweithredu cynlluniau a rhoi cymorth i ddisgyblion ag anghenion personol/arbennig
ychwanegol.
Cyfrifoldeb am staff: Bydd gan y swydd ychydig iawn o gyfrifoldeb am oruchwylio - er bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Nid oes gan y swydd gyfrifoldeb o gwbl am adnoddau ariannol, er gall fod yn ymdrin weithiau ag ychydig bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, drwy gadw cofnodion diogel a chynnal a chadw/rheoli adnoddau dysgu.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS