MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 - £47,331
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Medi, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo CC/2677

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 - £47,331

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y swydd: Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo

Lleoliad: Iâl

Math o gontract: Parhaol / Llawn amser

Cyflog: £30,620 - £47,331 Mae graddfa dâl uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i Raddfa Dâl Uwch.

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Lletygarwch ac Arlwyo angerddol a medrus i ymuno â'n tîm ymroddedig ar safle Iâl. Mae'r swydd hon yn cynnwys darparu addysgu o ansawdd uchel hyd at Lefel 3, gan gynnwys paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, a chynnal cysylltiadau cadarn â chyrff dyfarnu. Fel darlithydd, byddwch chi'n rhoi arweiniad a chymorth addysgol hanfodol i fyfyrwyr, gan weithredu fel tiwtor personol pan fo angen, a chyfrannu at eu datblygiad academaidd a phroffesiynol cyffredinol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol wrth recriwtio a chyfweld darpar fyfyrwyr, yn ogystal ag wrth gynllunio, marchnata a gwerthuso ein cynigion cwrs. Bydd cydweithio â thiwtoriaid o feysydd busnes eraill, noddwyr myfyrwyr a chyflogwyr yn allweddol i sicrhau profiad addysgol cyflawn. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gadw at systemau ansawdd, monitro a gwerthuso sesiynau dysgu, a chymryd rhan mewn gweithdrefnau hunanasesu, archwiliadau allanol a gweithgareddau dilysu'r Coleg.

Yn ogystal â'ch cyfrifoldebau addysgu, bydd gofyn i chi reoli tasgau gweinyddol amrywiol, gan gynnwys cwblhau dogfennaeth hanfodol fel cofrestrau, cynlluniau gwaith, ac adroddiadau myfyrwyr. Gallai'r swydd hon hefyd gynnwys cymryd rhan mewn cynllunio a threfnu digwyddiadau arbennig sy'n gysylltiedig â'r Maes Busnes. Os ydych chi wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn, rydyn ni'n eich annog i wneud cais.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
  • Addysg i gymhwyster Lefel 3 o leiaf
  • Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig