MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Dosbarth Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cymhorthydd Dosbarth Lefel 2
30 awr yr wythnos

Graddfa GO4 -£15,917 - £16,183 y flwyddyn

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Swydd dros dro hyd at ddiwedd tymor yr haf 2025
I ddechrau cyn gynted a bosib
Rydym yn awyddus i benodi Cymhorthydd Dosbarth brwdfrydig, ymroddgar a hyblyg i weithio gyda disgyblion mewn gwahanol ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol Gymraeg hon. Mae gennym dîm ardderchog o athrawon a Chymorthyddion Dosbarth sy'n cyd weithio'n effeithiol iawn er mwyn cyfrannu at brofiadau addysgol pob un o'n disgyblion.
Os am drafod anghenion y swyddi yn anffurfiol, neu am drefnu ymweliad â'r ysgol i drafod y swyddi, cysylltwch â Pennaeth yr ysgol ar 01978 351168, neu drwy e bost mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk.
DYCHWELWCH Y FFURFLENNI CAIS YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Os am drafod anghenion y swyddi yn anffurfiol, neu am drefnu ymweliad â'r ysgol i drafod y swyddi, cysylltwch â Pennaeth yr ysgol ar 01978 351168, neu drwy e bost mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.