MANYLION
  • Lleoliad: Llangewydd Junior,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £22,624 - £23,406 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Arbennig mewn Dosbarth Sylfaenol ADY - Ysgol Iau Llangewydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £22,624 - £23,406 y flwyddyn

Swyddog Cymorth Arbennig mewn Dosbarth Sylfaenol ADY - Ysgol Iau Llangewydd
Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2025

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 349 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY.
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi Swyddog Cymorth Arbennig, sy'n ddibynadwy, yn ofalgar, yn greadigol ac yn hyblyg, sy'n ymrwymedig i gefnogi'r tîm ADY i hyrwyddo llesiant a dysgu plant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Meddu ar brofiad o weithio gyda phlant ag ADY, gan gynnwys dysgwyr ag ASD
Swyddog cymorth arbennig rhagorol.
Gallu cefnogi profiadau dysgu o ansawdd uchel gan ddefnyddio eu gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.
Bod yn fodel rôl rhagorol i annog deilliannau cadarnhaol.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.
Cynnal profiadau dysgu yn annibynnol.
Gallu cefnogi anghenion pob dysgwr yn y lleoliad.
Gallu cefnogi gydag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krista Green ar 01656 815530 neu anfonwch e-bost at Head@llangewyddjs.bridgend.cymru

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Medi 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 30 Medi 2024
Ymweliadau ysgolion: 03 Hydref 2024
Dyddiad Cyfweld: 07 Hydref 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person