MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £2,796
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £2,796
Ynglŷn â'r RôlRhan Amser 5 Awr
Rydym yn chwilio am Lanhawr dibynadwy a gweithgar i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod amgylchedd yr ysgol yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr.
Mae'r swydd hon yn un am 5 awr yr wythnos i ddechrau, ond wrth i'r ysgol dyfu, bydd posibilrwydd o ymestyn yr oriau, os dymunir. Bydd yr oriau gwaith yn 1 awr y dydd ar ôl ysgol (unrhyw bryd rhwng 3:30 a 6:00 gyda'r nos). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r gofalwr/glanhawr sydd eisoes yn gweithio yn yr ysgol
Prif Gyfrifoldebau
• Glanhau ystafell ddosbarth, coridorau, swyddfeydd ac ardaloedd cymunedol.
• Ysgubo, mopio, hwfro a llwchdynnu ar arwynebau.
• Glanhau toiledau ac ystafelloedd ymolchi a sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu hail-lenwi.
• Cynnal safonau uchel o hylendid a glendid ar draws y safle.
• Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn ddiogel ac yn effeithiol.
• Rhoi gwybod am unrhyw bryderon cynnal a chadw neu iechyd a diogelwch.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
• Gallu cynnal safonau uchel o lanweithdra gyda sylw da i fanylion.
• Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
• Dangos sgiliau cyfathrebu da, hyblygrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at waith.
Yr hyn a gynigiwn:
• Tîm staff cyfeillgar a chefnogol.
• Adeilad modern a newydd i weithio ynddi.
• Ethos gofalgar sy'n canolbwyntio ar lwyddiant disgyblion a lles staff.
• Ysgol gynnes sy'n ganolog i'r gymuned.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Mrs Rhiannon James, Pennaeth Ysgol Llan-y-pwll ar 01978 594101.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Ysgol Llan-y-pwll
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Llan-y-pwll, wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam, yn ardal Rhosnesni a Borras. Agorwyd yr ysgol yn 2022 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac fe symudodd i mewn i adeilad a oedd wedi'i foderneiddio ym Mawrth 2023. Erbyn hyn, mae 70 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys disgyblion o'r Dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 3.
Bydd y niferoedd hyn yn cynyddu'n flynyddol wrth i ddosbarth ychwanegol gael ei ychwanegu bob blwyddyn, nes ein bod yn cynnig addysg i bawb hyd at Flwyddyn 6 ym Medi 2028. Felly, mae ein niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn.
Ymfalchïwn yn ein hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn yr adolygiad yn Hydref 2025, pan roddwyd cydnabyddiaeth fod Ysgol Llan-y-pwll yn gymuned ddysgu ofalgar, hapus a chynhwysol, lle mae ymdeimlad cryf bod pob disgybl yn aelod o deulu mawr, clos.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Ysgol Llan-y-pwll yn ysgol ofalgar sy'n datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch lle mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.
About Us -Ysgol Llan-y-pwll
Ysgol Llan-y-pwll is a Welsh-medium primary school located in the city of Wrexham, in the Rhosnesni and Borras area. The school opened in 2022 with a small group of pupils and moved into a modernised building in March 2023. At present, there are 70 pupils on the register, including pupils from Nursery up to Year 3.
These numbers will increase annually as an additional class is added each year, until we provide education for all pupils up to Year 6 in September 2028. Therefore, our numbers are increasing each year.
We are proud of our recent Estyn report following the inspection in October 2025, when it was recognised that Ysgol Llan-y-pwll is a caring, happy and inclusive learning community, where there is a strong sense that every pupil is a member of a large, close-knit family.
Our vision is to ensure that Ysgol Llan-y-pwll is a caring school that develops ambitious and capable learners, in an environment where everyone is happy, safe, and eager to learn.