MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: PRC - URC / MPR - UPR
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athrawes/Athro trochi/Gloywi iaith o fewn Canolfan iaith Cynefin
Cyngor Wrecsam
Cyflog: PRC - URC / MPR - UPR
Ynglŷn â'r RôlMae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Fel rhan o'r Portffolio Addysg, byddwch yn gweithio o fewn gwerthoedd a nodau strategol Cyngor Sir Wrecsam. Byddwch yn cyfrannu at waith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion a'r Gwasanaeth Cynghori'r Gymraeg, gan gefnogi'r awdurdod lleol a'i ysgolion i gryfhau addysgu a dysgu'r Gymraeg.
Byddwch yn:
Arwain ar y Siarter Iaith o fewn ysgolion categori 2 a 3 gan sicrhau llinyn aur o'r cynradd i'r Uwchradd
• cefnogi datblygiad Cymraeg a gwella ysgolion er mwyn sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob dysgwr
• helpu i greu cyd-destun positif, cefnogol ac uchelgeisiol ar gyfer holl ysgolion Sir Wrecsam
• darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant effeithiol i ysgolion
• arwain a datblygu ymhellach ddarpariaeth yr awdurdod ar gyfer dysgwyr sy'n newydd i'r iaith Gymraeg yn ysgolion cynradd Gymraeg y sir yn bennaf
Byddwch yn arwain rhwydwaith o ysgolion Uwchradd i gwblhau'r Cymraeg Campus gan eu cefnogi gyda dulliau trochi
• sicrhau profiadau trochi o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n newydd i addysg Gymraeg
• cefnogi ysgolion i sicrhau cynnydd cadarn a chanlyniadau cryf i ddysgwyr sy'n newydd i'r iaith Gymraeg
Mae'r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn chwarae rôl ganolog wrth godi safonau, sicrhau cynnydd disgyblion a darparu darpariaeth o ansawdd uchel i bawb. Prif Gyfrifoldebau
1. Cefnogi cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor ac unrhyw strategaethau cenedlaethol cysylltiedig, gan gynnwys Cymraeg 2050.
2. Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion Sir Wrecsam i ddarparu cyngor a chymorth ar addysgu a dysgu trochi Cymraeg, yn unol â gofynion statudol a pholisïau.
3. Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno dysgu proffesiynol parhaus ar fethodoleg Dysgu iaith, gan gynnwys rhwydweithiau dysgu proffesiynol, er mwyn gwella darpariaeth a chodi safonau.
4. Cefnogi dylunio a chyflwyno rhaglenni penodol sy'n mynd i'r afael ag anghenion a nodwyd ac a flaenoriaethwyd o fewn yr ysgolion- Cymraeg a Saesneg
5. Cynnal a datblygu arbenigedd pwnc drwy ymchwilio i adnoddau, methodolegau ac offer digidol cyfredol ar gyfer dysgu ac addysgu'r Gymraeg.
6. Cryfhau parhad a dilyniant iaith ar draws y cyfnodau drwy drefniadau pontio effeithiol a sicrhau'r llinyn aur rhwng y cynradd a'r uwchradd.
7. Cefnogi ysgolion i gynllunio datblygiad strwythuredig o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ac i rannu arfer effeithiol mewn addysgu, dysgu ac asesu.
8. Cydweithio â chydweithwyr ar lefel sir, ranbarthol a chenedlaethol drwy grwpiau gwaith perthnasol a gweithgarwch ymgynghorol.
9. Cynnal cyfarfodydd tîm, rhannu arfer gorau, ac adrodd ar waith a gwblhawyd mewn modd amserol a chywir.
10. Cymryd cyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol parhaus a chyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n gymesur â'r rôl.
Amodau Gwaith Arbennig
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gydag athrawon yn yr ystafell ddosbarth a chyfrannu ac arwain dysgu proffesiynol i ddatblygu pob agwedd ar iaith.
• Gall natur y gwaith olygu bod deilydd y swydd yn gweithio, ar brydiau, y tu allan i oriau gwaith arferol;
• efallai y bydd gofyn i ddeilydd y swydd fynychu, o bryd i'w gilydd, gyrsiau hyfforddi, cynhadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy'n ofynnol gan ei anghenion hyfforddi ei hun ac anghenion y gwasanaeth;
• mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad lefel Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;
* Aelodaeth o'r Gweithlu Addysg
• statws Defnyddiwr Car Yswiriant Busnes yn unol â pholisi'r Cyngor;
• telir treuliau yn unol ag amodau gwasanaeth lleol.
Rydym yn edrych am athro/athrawes llawn brwdfydedd ac egni i gydweithio'n effeithiol a hapus mewn tim da.
Gall secondiad gael ei gynnig os yw'n dderbyniol gan eich cyflogwr presennol.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.