MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £145,315 - £145,315
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Dirprwy Brif Weithredwr - Profiadau Pobl a Diwylliant CC/2674
Coleg Cambria
Cyflog: £145,315 - £145,315
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Mae ein partneriaid recriwtio AoC yn ein cefnogi ni gyda'r broses recriwtio hon. Edrychwch ar y microwefan i gael manylion llawn am y rôl a'r broses ymgeisio: https://www.aoc.co.uk/recruitment/current-opportunities/deputy-ceo-people-experiences-and-culture neu cysylltwch â Bernie Cullen: bernie.cullen@aoc.co.uk
Dirprwy Brif Weithredwr - Profiadau Pobl a Diwylliant
£145,315 (Codiad cyflog yn yr arfaeth)
Mae Coleg Cambria yn goleg sy'n perfformio'n dda ac yn arwain y sector, ac mae wedi'i adeiladu ar gryfderau a doniau ein cydweithwyr. Oherwydd ymddeoliad deiliad presennol y swydd, rydym am benodi Dirprwy Brif Weithredwr - Profiadau Pobl & Diwylliant newydd i'r uwch dîm arwain i'n cefnogi yn ein llwybr rhagoriaeth.
Yn goleg mawr ac amrywiol, Coleg Cambria yw prif ddarparwr addysg bellach a thrydyddol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, ar bum safle. Gyda'n dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn, rydym yn ymfalchïo mewn darparu profiad dysgu personol o ansawdd uchel i'n 6,000 o fyfyrwyr llawn amser ac 20,000 o fyfyrwyr rhan-amser. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Addysg Uwch, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddeiaethau.
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, rydym yn weithgar yn ein cymunedau a'n heconomïau, gan adeiladu dyheadau a sgiliau. Rydym hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd a bywyd diwylliannol y rhanbarth.
Mae'r Coleg mewn sefyllfa ariannol gref gydag incwm o fwy na £85 miliwn. Rydym yn falch o'n hystadau ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn amgylcheddau dysgu arloesol newydd sy'n ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr. Rydym yn ystyried Coleg Cambria yn gyflogwr o ddewis ac yn gyrchfan o'r radd flaenaf i fyfyrwyr.
Mae pobl yn allweddol i'n llwyddiant ac mae ein dysgwyr a'n cydweithwyr yn haeddu'r gorau o ran amgylchedd gwaith a chymorth. Rydym am benodi gweithiwr proffesiynol rhagorol gyda sgiliau arwain a chyfathrebu gwych i rôl y Dirprwy Brif Weithredwr - Profiadau Pobl a Diwylliant i arwain tîm aml-swyddogaeth Adnoddau Dynol, Cynhwysiant, Cymorth i Fyfyrwyr, Marchnata a Derbyniadau.
Bydd ein hymgeisydd llwyddiannus yn dod â hanes cadarn o arweinyddiaeth uwch a rheoli pobl mewn sefydliad mawr, cymhleth sy'n seiliedig ar werthoedd. Dylai fod gennych brofiad strategol o adnoddau dynol (yn ddelfrydol gyda chymhwyster CIPD), datblygiad sefydliadol a chynllunio busnes, gyda'r gallu i arwain mentrau newydd a rheoli newid traws-sefydliadol.
Mae'r gallu i ysbrydoli pobl a rhoi arloesedd ar waith yn hollbwysig, yn ogystal â'r ymrwymiad i flaenoriaethu, gwerthfawrogi ac ymgorffori diwylliant sefydliadol lle mae pobl wrth ei wraidd. Mae ein ffocws ar bartneriaeth gymdeithasol yn galluogi ein harweinwyr uwch i gyfathrebu'n agored a chyda gonestrwydd. Rydym yn rhoi cydweithwyr wrth wraidd ein holl benderfyniadau. Mae'r gallu i weithio fel tîm yn ogystal ag yn annibynnol yn hanfodol ac mae ein hymddygiadau'n cefnogi ein gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb.
Dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw dydd Sul, 22 Medi 2024
Bydd y dewis terfynol yn digwydd yn y Coleg ddydd Llun, 14 Hydref 2024
Trefnir cyfle i ymweld â safleoedd Coleg Cambria ddydd Gwener, 11 Hydref 2024
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig