MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £72,640 - £85,112
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Medi, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant CC/2653

Coleg Cambria

Cyflog: £72,640 - £85,112

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £72,640 i £85,112 y flwyddyn (graddfa gynyddrannol). Bydd y cyflog cychwyn yn dibynnu ar brofiad perthnasol.

Mae cyfle wedi codi ar gyfer unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â'n uwch dîm rheoli yng Ngholeg Cambrig. Ni yw un o'r Colegau Addysg Bellach mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan gyflogi dros 1300 o gydweithwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan ganolog o ddatblygiad parhaus ein diwylliant cynhwysol a theg gan sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein hamcanion strategol uchelgeisiol.

Mae'r swydd yn gofyn am arweinydd strategol a all alinio mentrau pobl a phrosiectau traws-golegol megis cyfathrebu effeithiol, rheoli twf a datblygiad sefydliadol yn effeithiol, â chenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd y coleg. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth gyffredinol ac ystod lawn o wasanaethau Adnoddau Dynol (AD) a Dysgu Proffesiynol, gan gynnwys darparu cyngor ac arweiniad i reolwyr a gweithwyr yn unol â deddfwriaeth cyflogaeth gyfredol, arfer gorau a safonau arolygu.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad llwyddiannus o reoli pobl yn y sector Addysg Bellach neu sefydliadau mawr tebyg sy'n seiliedig ar werthoedd diwylliannol, ynghyd â phrofiad sylweddol o arwain a rheoli swyddogaethau pobl/AD. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddull cydweithredol a gallu i gyfathrebu a dylanwadu'n effeithiol ar bob lefel yn y Coleg.

Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r weledigaeth, sgiliau, arbenigedd a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ac i'n helpu i wireddu ein huchelgais, hoffem gael clywed gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth am ein huchelgeisiau ewch i ddarllen ein Cynllun Strategol (2020-2025) a'n Strategaeth Pobl a Diwylliant (2023-2026) . I gael manylion am fanteision gweithio yng Ngholeg Cambria, ewch i'n gwefan .

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'. Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Dyddiad cau i wneud cais: Dydd Iau 5 Medi 2024. Sylwch y bydd cyfweliadau dewis yn cael eu cynnal ddydd Mercher 18 Medi 2024.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig