MANYLION
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Cyflog Graddfa Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Medi, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Athro\/Athrawes Arlunio, Celf a Dylunio Rhan Amser - Ysgol John Bright
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Cyflog Graddfa Athrawon
YSGOL JOHN BRIGHTATHRO/ATHRAWES ARLUNIO, CELF A DYLUNIO RHAN AMSER
Yn eisiau erbyn Ionawr 2025 neu yn gynt os yn bosib
Dynodiad yr Iaith Cymraeg: Dymunol
Mae'r ysgol yn dymuno penodi ymarferwr hynod gymwys, deinamig ac ysbrydoledig sy'n gallu ennyn diddordeb myfyrwyr gyda'u hangerdd am Gelf yn yr adran boblogaidd hon gyda llwyddiant mewn Celf TGAU a Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth Safon Uwch. Rydym yn chwilio am rhywun sy'n frwd dros gefnogi pobl ifanc i ddatblygu cariad at y pwnc. Mae Ysgol John Bright yn ysgol gynhwysol, ofalgar lle mae gan fyfyrwyr agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu ac rydym yn ymfalchïo mewn herio, cefnogi a datblygu myfyrwyr.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel, cariad at y pwnc, y gallu i ysbrydoli, chwerthin a mwynhau heriau'r rôl. Byddwch yn chwaraewr tîm; byddwch yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ein myfyrwyr.
Dyddiad cau a terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, Dydd Iau, 12fed Medi - Dyddiad cyfweliadau i'w gadarnhau
BYDDWCH YN :
- Credu'n angerddol ym mhotensial pob myfyriwr a gyda ymrwymiad i sicrhau bod pob myfyriwr yn llwyddo
- Athro/athrwaes gyda cymwysterau da, uchel eich cymhelliant, sy'n gallu cyflwyno gwersi difyr a sicrhau canlyniadau cadarn
- Gallu gweithio gyda cydweithwyr i gael effaith ar gynnydd myfyrwyr a datblygu cwricwlwm cyfoethog
- Creadigol gydag ymagwedd llawn dychymyg tuag at addysgu a dysgu
- Rhywun gyda disgwyliadau uchel, y gallu i herio myfyrwyr a meddwl yn feirniadol am eich ymarfer eich hun
- Wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus sy'n arwain at wybodaeth bynciol ardderchog a dysgu
RYDYM YN CYNNIG :
- Cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa a mynediad i raglen gynhwysfawr o ddysgu a datblgyiad proffesiynol
- Y cyfle i fod yn feiddgar ac arloesol yn eich arweinyddiaeth
- Ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer myfyrwyr a staff
- Amgylchedd gwaith proffesiynol ysgogol a chefnogol
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol a dilyniant ar gyfer yr holl staff
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf mewn adeilad modern deniadol a tir
- Agwedd at arweinyddiaeth sy'n blaenoriaethu lles a llwyth gwaith staff
- Ethos 'ffenestr ar y byd' sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr
Am ragor o fanylion am y swydd, wele gwefan yr Ysgol https://johnbright.uk/vacancies/
Mae Ysgol John Bright wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a bobl ifanc. Mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn rhannu yr ymrwymiad yma. Mae angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd. Mae'n ofyniad i'r person llwyddiannus gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau yn y swydd.
This form is also available in English.