MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cynhwysiant ADY -mewnol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gwasanaethau Addysg - Swyddog Cynhwysiant ADY

EIP SPC 10-13(+ 3 SPA)

Parhaol - Llawn Amser

Mae ein Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn wasanaeth statudol. Mae'n rhaid i chi fod yn ymarferydd cryf gyda phrofiad o weithio gyda dysgwyr ag ADY. Byddwch yn gallu dynodi darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol fel bod dysgwyr ag ADY yn gallu cyflawni eu potensial. Mae'r swydd yn gofyn am dystiolaeth o wybodaeth effeithiol am arferion presennol. Gan weithio gydag amrywiaeth eang o asiantaethau a gweithwyr proffesiynol, mae'r swydd yn gofyn am ymroddiad, hyblygrwydd a dealltwriaeth drylwyr o'r holl safonau perthnasol ac ALNET a'r Cod ADY.

Mae'r swydd yn mynnu gallu datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrediad o fudd-ddeiliaid. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos tystiolaeth o angerdd a phenderfyniad tuag at ddysgwyr ag ADY. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni llwyth gwaith wedi'i ddyrannu, ond disgwylir iddynt allu gweithio'n hyblyg a blaenoriaethu eu gwaith yn unol â'r amserlenni cyfreithiol.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn athro cymwys oherwydd bod y swydd hon yn arwain at gysylltiad ag ysgolion a bydd yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Rowlands, Rheolwr ADY Lisa.Rowlands@wrexham.gov.uk

Dyddiad cau:

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn Ddymunol a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â thrwydded yrru lawn.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.