MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 10 Pwynt 27 i Bwynt 29 £35,745 i £37,336 y flwyddyn pro rata £18.52 i £19.35 yr awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 10 Pwynt 27 i Bwynt 29 £35,745 i £37,336 y flwyddyn pro rata £18.52 i £19.35 yr awr
Swyddog Monitro Contractau'r Blynyddoedd CynnarSwydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
• Monitro'r contract gwasanaeth 3+ i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei
ddarparu i fanylebau y cytunwyd arnynt. Nodi, dogfennu ac adrodd ar unrhyw feysydd sy'n peri pryder a gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i gytuno ar gynlluniau
gweithredu i fynd i'r afael â materion perfformiad a nodwyd.
• Cysylltu ag amrywiaeth o adrannau awdurdodau lleol Powys a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i sicrhau y darperir addysg 3+ yn llwyddiannus.
Amdanoch chi:
Profiad o fonitro yn erbyn safonau gwasanaeth.
Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol a gwirfoddol.
Dealltwriaeth o'r broses monitro contractau.
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth, rheolwyr, gweithwyr proffesiynol ag asiantaethau eraill, yn ysgrifenedig ac yn rhithiwr, er enghraifft dros Teams.
Sgiliau trefnu a gweinyddu da.
Eich dyletswyddau:
Bod yn gyfrifol am fonitro contract lleoliadau 3+ yr awdurdod gyda darparwyr gwasanaethau a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu i fanylebau y cytunwyd arnynt.
Gweithio ochr yn ochr ag adran Gyllid Powys i reoli cyllideb y 3+ lleoliad a sicrhau monitro ac adrodd ariannol priodol.
Meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â rheolwyr darparwyr gwasanaethau er mwyn cynnig cefnogaeth a chymorth adeiladol i sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn bodloni safonau contract. Gweithio ochr yn ochr â'r Athrawon Ymgynghorol Dysgu Sylfaen i fonitro perfformiad
sicrhau ansawdd parhaus darparwyr gwasanaethau.
Cysylltu'n effeithiol â chydweithwyr mewnol ac allanol i ddatblygu systemau i reoli gwybodaeth a choladu gwybodaeth data sy'n cyfrannu at y farn 'gyffredinol' o'r ansawdd a ddarperir.
Gweithio gyda'r tîm derbyniadau i fonitro capasiti a sicrhau darpariaeth ddigonol ar draws y Sir.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:
Eurig Towns
Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwella Ysgolion Cynradd
Gwasanaeth Ysgolion Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
E-bost - [email protected]
Ffôn: 01597 826453
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon
Ffôn Symudol: 07747461306