MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA
(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2026
Pennaeth Cynorthwyol
Swydd Barhaol.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol i ymuno gyda thîm ymroddgar.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Arweinyddiaeth, pwyntiau 9 i 13 (£64,174 - £70,814 y flwyddyn) i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd uchod. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Kelly Morgan pennaeth@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd. Bu manylion ychwanegol am y swydd i'w cael gan Mrs Kelly Morgan, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd. (Rhif Ffôn:01248 600291; e-bost: RhB@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 6ED O FAI, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
-
Swydd Ddisgrifiad
Cyfrifoldebau Penodol i'r Maes Arwain:
Cwricwlwm:
- Dylunio cwricwlwm yr ysgol
- Llunio colofnau dewis
- Arwain a datblygu cwricwlwm amgen yr ysgol
- Arwain ar drefniadau profiad gwaith ar gyfer disgyblion
Asesu ac Adrodd:
- Cyd-gordio amserlen asesu ac adrodd yr ysgol
- Arwain ar drefniadau asesu ac arholi (mewnol ac allanol)
- Arwain ar drefniadau adrodd yr ysgol gan gynnwys adroddiadau a nosweithiau rhieni
Systemau:
- Sicrhau bod systemau SIMS / Bromcom yn cael eu defnyddio i'w llawn potensial
- Arwain ar PLASC
- Dadansoddi data ar lefel ysgol gyfan
- Llunio amserlenni'r ysgol
Cyfrifoldebau Fel Aelod o'r Uwch Dîm Arwain:
- Bod yn aelod llawn a gweithredol o'm Arwain
- Rhannu a chyfleu'r weledigaeth ysgol a'r cyfeiriad strategol
- Cefnogi trefn hunan-arfarnu'r ysgol drwy holi disgyblion, craffu ar lyfrau, arsylwi gwersi a theithiau dysgu
- Adnabod meysydd datblygu a llunio cynlluniau datblygu
- Gweithredu fel aelod cyswllt rhwng yr UDA a rhai adrannau a meysydd dysgu
- Cyfrannu'n llawn i drafodaethau UDA ac i strategaethau a blaenoriaethau datblygol yr ysgol
- Cyfrannu at raglen hyfforddi staff ysgol gyfan
- Bod yn ymwybodol o ofynion Estyn ac yn arddel y safonau addysgol uchaf
- Ymgymryd â thasgau rheoli, trefnu a gweinyddu rhesymol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol parhaus
- Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd Llywodraethwyr (llawn ac is-bwyllgorau)
- Dangos ymrwymiad i lwyddiant Ysgol Dyffryn Ogwen yn gyffredinol
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi