MANYLION
- Lleoliad: Bridgend,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 y flwyddyn
Arweinydd Cyflyrau Sbectrwm AwtistigDisgrifiad o'r swydd Arweinydd Cyflyrau Sbectrwm Awtistig
Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 y flwyddyn
Llawn Amser a Pharhaol
Diben y swydd: Rôl arweiniol wrth ddarparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â diagnosis o gyflwr sbectrwm awtistig a darparu cymorth i'r rhai sy'n aros am atgyfeiriad/canlyniad diagnostig. Bwriad y rôl yw dileu a lleihau rhwystrau dysgu, gan weithio ar draws holl gampysau Coleg Penybont. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr i godi ymwybyddiaeth o Gyflyrau Sbectrwm Awtistig ar draws y Coleg a hyrwyddo arfer cynhwysol.
Bydd gennych wybodaeth gadarn am y rhwystrau penodol i ddysgu y gall myfyrwyr sydd â chyflyrau sbectrwm awtistig eu profi a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc sydd â chyflyrau sbectrwm awtistig. Byddwch wedi’i hyfforddi at Lefel 2 neu uwch ar gyfer gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau sbectrwm awtistig. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc yn y sector ôl-16 / Addysg Uwch yn ddymunol.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.