MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
Technegydd CeffylauDisgrifiad o'r swydd Technegydd Ceffylau
0.5 cyfwerth ag amser llawn (18.5 awr yr wythnos) a Chyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2025
Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
Pwrpas y swydd: Cyflawni dyletswyddau cyffredinol yn yr iard a pharatoi offer ymarferol i’w defnyddio yn yr iard ac mewn darlithoedd. Byddwch yn cynorthwyo gyda dyletswyddau cyffredinol yn yr iard geffylau, gan gynnwys glanhau, bwydo a rhoi dŵr i’r ceffylau, cneifio a chlipio, a sgubo a glendid cyffredinol yr iard.
Bydd gennych brofiad a gwybodaeth ragorol o weithio mewn amgylchedd iard geffylau, yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau a Chymhwyster Cam 2 Cymdeithas Ceffylau Prydain neu’n barod i ymgymryd ȃ chymhwyster hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Cyfweliadau i’w gynnal: 14/08/2024
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.