MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, All Wales, CF15 7AB
  • Testun: swyddog polisi a chynllunio
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Polisi

ColegauCymru
O dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i hyrwyddo budd addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, gan helpu i ddatblygu amcanion polisi allweddol ColegauCymru a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Bydd y Swyddog Polisi yn dod ag arbenigedd mewn datblygu polisi a dadansoddi gwleidyddol yn ogystal ag ymrwymiad i lwyddiant addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru a gwaith y sefydliad yn ei gyfanrwydd. Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno strategaethau dylanwadu ar draws prif flaenoriaethau polisi’r sefydliad ac yn helpu i godi proffil ColegauCymru ac eirioli ansawdd darpariaeth addysg bellach yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynrychioli colegau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos gydag Aelodau Seneddol yn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod a briffio llefarwyr pleidiau gwleidyddol perthnasol ac aelodau o Bwyllgorau allweddol y Senedd, yn ogystal â chynnal gwaith ymchwil, dadansoddi (ansoddol a meintiol), a helpu i ddatblygu argymhellion polisi cyhoeddus. Byddant hefyd yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain yn ogystal fel rhan o dîm, a bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith cadarnhaol.

Mae hwn yn gyfle hybrid a fydd yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd, felly mae’r gallu i gymudo yma yn hanfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol hefyd.

Ymgeisio am y swydd hon

Anfonwch CV sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni’r Manyleb Person, ynghyd â llythyr eglurhaol byr sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau isod. Ni ddylai'r ateb i bob cwestiwn fod yn fwy na 500 gair.

Beth ydych chi’n meddwl yw’r prif faterion polisi sy’n wynebu’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn benodol yn y 12-18 mis nesaf?
Sut ydych chi'n meddwl y dylai ColegauCymru geisio mynd i'r afael â'r materion hyn?
Beth yw'r prif gyfleoedd a rhwystrau?

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i HR@ColegauCymru.ac.uk

Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 12 Awst am 12.00pm.

Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar 22 Awst 2024 yn Nhongwynlais, Caerdydd

Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).