MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,660-£44,049 CAILI yn seiliedig ar gymwysterau
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Celf a Dylunio Sylfaen

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £24,660-£44,049 CAILI yn seiliedig ar gymwysterau

Darlithydd mewn Celf a Dylunio Sylfaen
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Fel Darlithydd mewn Celf a Dylunio Sylfaen, byddwch yn gyfrifol am addysgu Lefel 3 a 4. Bydd angen dealltwriaeth o gyfryngau a phrosesau tri dimensiwn yn enwedig metel pren a phlastigau. Byddai dealltwriaeth o sgiliau cerameg, mowldio a chastio hefyd yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. Bydd angen dealltwriaeth o CAD ac adeiladu digidol yn ogystal â gwneud crefftau a pheiriannau gweithdy. Mae dealltwriaeth o ddisgyblaethau a llwybrau arbenigol o fewn celf, dylunio a chrefft tri dimensiwn yn hanfodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth dda o ddamcaniaeth hanesyddol celf a dylunio ac ymarfer cyfoes.

 

 

Gwybodaeth   Bellach:

 

Mae   angen   i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd   ag   unrhyw ddyletswyddau   rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

 

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   [email protected] .uk