MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: L18 - L24, £79,288 - £91,836
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L18 - L24, £79,288 - £91,836
I ddechrau ym mis Medi 2026Cyflog: L18 - L24, £79,288 - £91,836
Mae Ysgol Gynradd Croesyceiliog yn nhref Cwmbrân, tref sy'n tyfu, ac mae'n gymuned hapus, sy'n meithrin, lle mae staff a disgyblion yn &slshquot;dysgu byw ac yn caru dysgu" go iawn. Rydym wedi ymrwymo i helpu pob plentyn i ddarganfod eu potensial, ei ddatblygu a'i ymestyn, gan eu paratoi at ddod yn aelodau dyfeisgar, cydnerth a myfyriol o gymdeithas. Ochr yn ochr â'n ffocws cryf ar ddysgu o ansawdd uchel, rydym yn gweld llesiant, gofal a thwf personol pob disgybl fel elfennau sydd yr un mor bwysig.
Rydym yn chwilio am bennaeth sy'n llawn ysbrydoliaeth ac sy'n dod ag egni, gweledigaeth, ac ymrwymiad dwfn i helpu pob disgybl i ffynnu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau arwain a rheoli neilltuol, gan alluogi staff i ffynnu yn eu rolau a sicrhau bod rhieni yn ymgysylltu'n llwyr â chyfeiriad yr ysgol a'i gwerthoedd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd sy'n angerddol am lunio cymuned ysgol fywiog, uchelgeisiol a chynhwysol.
Rydym yn cynnig croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar, gweithgar o weithwyr proffesiynol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i'ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn âr swydd wag hon, cysylltwch â Jonny Raine (Cadeirydd y Llywodraethwyr) Ffôn: 07769 114586; E-bost: jonny@pbce.org.uk
Ar gyfer y swydd hon mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad