MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: 6 awr yr wythnos, Cyfnod Penodol hyd at 27\/04\/2025
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cwnselydd yn yr Ysgol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: 6 awr yr wythnos, Cyfnod Penodol hyd at 27\/04\/2025

Lleoliad gwaith: Coed Pella- gweithio o fewn amrywiol ysgolion

Byddwch yn ymuno â thîm medrus a chefnogol sy'n ymroddedig i les yr holl bobl ifanc yng Nghonwy.

Yn bresennol rydym yn dîm o naw cwnselydd yn yr ysgol gyda sgiliau a diddordebau mewn amrywiaeth o ddulliau cwnsela, gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol, meddylgarwch, therapi chwarae a dulliau'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela i holl ysgolion uwchradd a cynradd Conwy.

Rydym yn ceisio cwnselydd wedi'i symbylu, sy'n wybodus, gyda sgiliau, sydd â diddordeb mewn gweithio ar draws yr amrediad oed ac sy'n gallu cynnig ei ddiddordebau a sgiliau arbennig i'r tîm i wella ac adeiladu ar y gwasanaeth sy'n bodoli.

Bydd y swydd yma angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cysylltwch â Hafwen Evans (01492 577876) am sgwrs anffurfiol os ydych yn gwnselydd gyda chymhwyster neu therapydd gyda phrofiad o weithio gyda phobl ifanc ac ymroddiad i weithio fel rhan o dîm hyblyg a deinamig.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Hafwen Evans Cydlynydd Cwnselydd yn yr Ysgol 01492577876 hafwen.evans@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg er mwyn cynnal sgwrs syml gyda pobl ifanc yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.

Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.