MANYLION
  • Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 4HN
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Dysgu – Lefel 2

Cyngor Sir Fynwy
Mae’r Corff Llywodraethu am benodi person ymroddgar, gofalgar a brwdfrydig i ymuno
â’n cymuned gyfeillgar a thîm o staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni ymroddedig,
brwdfrydig. Rhaid i chi allu gweithio'n agos gyda holl aelodau'r tîm i ddarparu dilyniant i'r
plant yn y dosbarth. Rhaid i chi allu gweithio ym mhob grŵp blwyddyn a darparu
cymorth 1:1 a chymorth grŵp i ddisgyblion ag anghenion corfforol, dysgu neu
ymddygiadol, mewn amgylchedd prif ffrwd.

Mae Ysgol Gynradd Parc y Castell wrth galon cymuned Cil-y-coed. Ein gweledigaeth ar
gyfer Ysgol Gynradd Parc y Castell yw darparu’r profiadau i bawb fod yn ddysgwyr
hapus, gwydn a hyderus. Mae angen i bob disgybl a staff fod yn annibynnol, meddwl yn
greadigol a myfyrio ar eu dysgu, er mwyn cyflawni eu gwir botensial a’u dyheadau ar
gyfer y dyfodol.


Pwrpas y Rôl hon:

Cymoth ar gyfer Disgyblion

• Pan fo angen, rhoi sylw i anghenion personol y disgybl, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig gan gynnwys cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiled, bwydo a symudedd.
• Cefnogi unigolyn(unigolion) ag anghenion meddygol/ymddygiadol i alluogi mynediad i ddysgu.
• Yn dilyn hyfforddiant, rhoi meddyginiaeth yn unol â gweithdrefnau polisïau'r ALl a'r ysgol.
• Goruchwylio a chefnogi disgyblion gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i ddysgu.
• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgybl, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
• Hyrwyddo bod pob disgybl yn cael eu cynnwys a’u derbyn.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan yr athro.
• Annog disgyblion i ymddwyn yn annibynnol fel y bo'n briodol.

Cymorth ar gyfer Athrawon

• Darparu adborth manwl a rheolaidd i athrawon ar gyflawniad disgyblion, cynnydd, problemau ac ati.
• Cydgysylltu â'r athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
• Monitro ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu a chadw cofnodion disgyblion yn ôl y gofyn
• Sefydlu trefn i sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithiol i'r athro
• Gweithredu’r polisi'r ysgol mewn perthynas â hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol disgyblion ac agweddau at ddysgu.
• Cysylltu'n sensitif ac effeithiol gyda rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda rhieni a chyfrannu at adolygiadau blynyddol yn unol ag arfer yr ysgol.


Cymorth ar gyfer yr Ysgol

• Bod yn ymwybodol a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â chynhwysiant, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data, gan adrodd am bob pryder i berson priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol, gan gynnwys y Cwricwlwm ar gyfer Cymru.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol yn ôl yr angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac adolygiad proffesiynol yn ôl yr angen.
• Ymgymryd â Hyfforddiant Amddiffyn Plant / Diogelu ac adrodd unrhyw beth sy'n peri pryder i'r Pennaeth.