MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 0AY
  • Testun: Cynorthwyydd Clwb Brecwast
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

2 x Gweithiwr Clwb Brecwast

Cyngor Sir Fynwy
Daeth cyfle ar gael i wneud gwahaniaeth go iawn; y cyfle i fod yn rhan o dîm hynod effeithiol.

Rydym yn chwilio am Weithwyr Clwb Brecwast er mwyn rhoi’r dechrau gorau i’r diwrnod i’n dysgwyr; i baratoi a gweini brecwast a goruchwylio disgyblion sydd yn cymryd rhan yn y cynllun Brecwast ac yn ymgymryd â dyletswyddau perthnasol.



DIBEN Y SWYDD
Paratoi a gweini brecwast a goruchwylio disgyblion sydd yn cymryd rhan yn y cynllun Brecwast ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill.

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
1. Paratoi a gweini bwyd a diodydd i ddisgyblion sydd yn cymryd rhan yng Nghynllun Brecwast Cyngor Sir Fynwy.
2. Goruchwylio a rheoli ymddygiad disgyblion cyn ac ar ôl brecwast, yn unol â Pholisi Rheoli Ymddygiad yr Ysgol.
3. Delio gyda damweiniau yn yr ardal brecwast
4. Rhoi gwybod i’r Cydlynydd Cynllun Brecwast am anghenion bwyd.
5. Gweithio drwy’r amser mewn modd sydd yn diwallu’r anghenion sydd yn ymwneud ag arferion hylendid bwyd
6. Glanhau’r gegin yn ddyddiol a’r meysydd gwaith o gwmpas ynghyd â’r offer ar ôl eu defnyddio
7. Gosod, glanhau a chadw unrhyw gyfarpar a chelfi ar ôl eu defnyddio yn ddyddiol
8. Cefnogi egwyddorion a pholisïau cyfle cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym mholisi'r Ysgol .
9. Glanhau’r ardaloedd a ddefnyddir ar ddiwedd y Clwb Brecwast.
10. Cydymffurfio gyda deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Pholisïau’r Ysgol (O.N. Bydd yr union gyfrifoldebau yn dibynnu ar y swydd).
11. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a/neu weithio ar adegau sydd angen ac yn unol â gradd a lefel eich cyfrifoldeb o fewn y mudiad.