MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gradd 6, £25,979 x 77.15% a Lwfans AAA (£1,455 pro rata)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 6, £25,979 x 77.15% a Lwfans AAA (£1,455 pro rata)
LSA of Learning Support Class based at Ysgol Bro TafDisgrifiad Swydd
2 x Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Bro Ta f
Graddfa Gyflog: Gradd 6, £25,979 x 77.15% a Lwfans AAA (£1,455 pro rata)
Oriau: 32.5 Awr Yr Wythnos – Amser Tymor Yn Unig
Dyddiad Dechrau: Medi 2024
Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi dau Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn Ysgol Bro Taf i ddechrau Medi 2024. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at 12 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae athro/athrawes a dau Gynorthwyydd Cynnal Dysgu yn gyfrifol am y dosbarth.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Canolfan Menter y Cymoedd, Aberpennar, CF45 4SN, rhif ffôn 01443 744398.
Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 08 Awst 2024, canol nos.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan Recriwtio'r Cyngor https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.