MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 (Cefnogaeth a Chyflwyno)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro
Queensway
Wrecsam
01978 340380
Pennaeth: Mrs. K. Owen-Jones

G06 - £17,579 - £18,499 y flwyddyn
28.75 awr yr wythnos
YN YSTOD Y TYMOR A DIWRNODAU HYFFORDDIANT
I ddechrau yn ystod tymor yr hydref 2024 - Dros dro tan 31 Awst 2025

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 yn ein Darpariaeth Adnoddau CA2 i gefnogi mynediad at ddysgu i ddisgyblion sydd ag ADY ac i gefnogi gwaith proffesiynol athrawon trwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu a gytunwyd o dan system o oruchwyliaeth gytunedig. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu yn y tymor byr ar gyfer dosbarth cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd am gyrhaeddiad, cynnydd a datblygiad disgyblion.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddod i'r ysgol i weithio gyda grŵp bach o ddisgyblion.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
Mailbox@gwenfro-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Gwener 20 Medi 2024
CYFWELIADAU: Cyfweliadau, dydd Iau 26 Medi 2024 (3.00pm ymlaen)