MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Medi, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan - Cradoc Campus)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan - Cradoc Campus)Swydd-ddisgrifiad
Ei angen/Ei hangen ar gyfer : cyn gynted â phosib
Bydd Cam 1 yn gweld y tair ysgol bresennol, Ysgol Gynradd Cradoc, Ysgol Feithrin a Babanod Mount Street ac Ysgol Iau Mount Street, yn uno yn un ysgol ar draws tri champws o fis Medi 2024.
Bydd Cam 2 yn cynnwys adeiladu ysgol newydd, lle bydd y tair ysgol yn dod o dan yr un to. Bydd yr uwch dîm rheoli, staff yr ysgol, ar y cyd â'r pennaeth a'r corff llywodraethu dros dro, yn chwarae rhan allweddol yn nyluniad a chynllun yr ysgol newydd. Bwriedir agor yr ysgol ym mis Medi 2026.
Bydd yr uwch dîm rheoli yn gweithio gyda'r holl staff ar draws y tri safle i hyrwyddo cymuned gynhwysol sy'n ymdrechu i hyrwyddo llwyddiant ein holl ddisgyblion. Gan fod ein disgyblion yn dod o ystod eang o gefndiroedd, bydd yr uwch dîm rheoli yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc yw'r gwerth craidd a fydd yn llywio pob penderfyniad yn yr ysgol.
Bydd eich sgiliau, profiadau a rhinweddau personol yn dod yn rhan annatod o ddatblygiad yr ysgol newydd yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig o newid i'r tair ysgol, a dymunwn bob llwyddiant i chi pe baech yn penderfynu ymgeisio am y swydd hon. Mae gennym dîm ymroddedig o staff a Llywodraethwyr.
Croesawir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol trwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r Darpar Bennaeth, Mrs Sarah Court,
Ffôn: 01597 827339
E-bost: [email protected]
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS