MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Gynradd Gladestry)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Gynradd Gladestry)Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.
Cynorthwyydd Addysgu - Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llanfair Llythynwg
15 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener)
Ei angen/ei hangen cyn gynted â phosib 2024
Contract Cyfnod Penodol am 1 flwyddyn yn y lle cyntaf.
Ry'n ni'n edrych i benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n angerddol am gefnogi dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant ag ystod o anghenion, ac sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd i wneud hynny.
Byddwch yn gweithio o dan arweinyddiaeth ein staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt gyda disgyblion unigol a grwpiau bach o ddisgyblion, yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan iddi. Gall hyn gynnwys cynorthwyo â chynllunio, paratoi a chyflwyno'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal â monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad, dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar y cyd ac yn hyblyg a meithrin perthynas dda gyda staff a rhieni allweddol, gan ddangos agwedd barchus a gofalgar tuag at bawb yn yr ysgol.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r ysgol am ymweliad neu fanylion pellach os oes angen.
[email protected] neu 01544 370207.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.