MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Pecyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Medi, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Gynradd Llanbister)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Pecyn

Pennaeth (Ysgol Gynradd Llanbister)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i gynnal a datblygu'r Ysgol gynradd flaengar hon. Mae'n gyfle cyffrous ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu profiad a sgiliau arweinyddiaeth ymhellach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darganfod:
• Ysgol boblogaidd, lwyddiannus, flaengar a deniadol
• Ysgol sy'n dangos gwydnwch ar bob lefel
• Ysgol greadigol sy'n arloesol o ran ei ddatblygiad tuag at y Cwricwlwm Newydd
• Ysgol hapus lle mae'r plant yn ymddwyn yn dda, yn gweithio'n galed ac yn cael eu hysgogi i wneud eu gorau glas
• Ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer ei holl ddysgwyr, ac sy'n darparu gofal, cymorth ac arweiniad ar gyfer pob disgybl
• Tîm o athrawon rhagorol uchel eu cymhelliant, sy'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr addysgu
ymroddedig, sy'n ymdrechu i ddarparu ystod o brofiadau cyffrous er mwyn cyfoethogi cyfleoedd addysgu'r holl ddisgyblion
• Amgylchfyd bendigedig mewn pentref hyfryd
• Llywodraethwyr, rhieni, a chymuned cefnogol, a ChRhaA weithgar
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos:
• Sgiliau arweinyddiaeth amlwg sy'n ysgogi staff a disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial
• Sgiliau dysgu rhagorol
• Fod ganddynt ddisgwyliadau uchel o safbwynt disgyblion a staff
• Profiad o reolaeth ariannol
Byddem yn annog ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol cyn cyflwyno cais.
Gellir trefnu ymweliad trwy gysylltu â gweinyddwr yr ysgol (gweler y manylion uchod)

[email protected]