MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Archddiacon Griffiths)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Archddiacon Griffiths)Swydd-ddisgrifiad
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu profiadol, hyblyg a gweithgar i weithio'n bennaf gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol sy'n gallu:
• Defnyddio sgiliau / hyfforddiant / profiadol arbenigol (cwricwlaidd/addysgu) er mwyn cefnogi disgyblion e.e. ar gyfer Dyslecsia - rhaglen Dyslecsia Alpha - Omega; ar gyfer anawsterau lleferydd ac iaith - rhaglen Elklan, defnyddio cymhorthion cyfathrebu cryfhaol amgen
• Hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad pob disgybl, eu hannog i ryngweithio a chydweithio ac ymgysylltu â gweithgareddau.
• Hyrwyddo annibyniaeth a datblygu hunan-barch
• Cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol
• Defnyddio sgiliau / gwybodaeth / hyfforddiant arbenigol, darparu cymorth mewn meysydd arbenigol
• Gweithio gyda phlant/disgyblion sydd ag anghenion cymhleth, monitro a darparu ar gyfer eu gofal cyffredinol, diogelwch a lles, gan gynnwys tasgau sy'n gysylltiedig â'u cynhwysiant cymdeithasol a darparu ar gyfer eu hanghenion personol, corfforol a gofal iechyd.
Os hoffech drafod y swydd hon, croeso ichi gysylltu â'r Pennaeth,
Miss Louise Simms
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS