MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £38,223 - £41,418 y flwyddyn (G08)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £38,223 - £41,418 y flwyddyn (G08)
Lleoliad gwaith: Coed PellaDyma gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm Iechyd a Lles Addysg bach am y cyfnod penodedig neu ar secondiad.
Bydd y swydd yn ymwneud i raddau helaeth â rheol cyflwyniad y fframwaith llesiant emosiynol a meddyliol yn holl ysgolion Conwy.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion deddfwriaethol â'r cod ymarfer cysylltiedig ag Iechyd a Lles a Pherthnasoedd mewn ysgolion. Byddant hefyd yn gyfrifol am ddadansoddi a dehongli data arolygon lles ysgolion cynradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) er mwyn cynnwys llais y disgybl a chymryd y camau cywirol priodol.
Bydd deiliad y swydd yn cynllunio gwaith Iechyd a Lles i gefnogi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac yn gyfrifol hefyd am raglenni bwyta'n iach a ffitrwydd mewn ysgolion.
Mae rheoli'r platfform TEAMS a negeseuon ar gyfer Cymuned Dysgu Proffesiynol Llesiant Ysgolion Conwy yn rhan allweddol o'r swydd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Huw Evans Swyddog Iechyd a Lles 01492574624 huw.evans@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.