MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Smarties - Ysgol Golwg Pen Y Fan)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Smarties - Ysgol Golwg Pen Y Fan)
Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
O dan arweiniad yr Unigolyn Cyfrifol, Pennaeth neu unrhyw uwch aelod o staff arall, neu lywodraethwr, eich rôl bydd cydlynu a bod yn gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd gan
sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel. Darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar o fewn y lleoliad lle gall plant a gofalwyr teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol trwy amrywiaeth o
weithgareddau. Bod yn gyfrifol am reoli'r amgylchedd dysgu e.e. sefydlu/paratoi/cynnal adnoddau dysgu, creu
arddangosfeydd o waith plant, paratoi, cynnal a gwerthuso meysydd o ddarpariaeth barhaus. Ymgymryd â thasgau gweinyddol angenrheidiol gan gynnwys cwblhau ffurflenni a threfniadau derbyn.
Sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel, trefnus ac yn cael ei gynnal a'i gadw bob amser. Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd,
diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data, a bod unrhyw bryderon yn cael eu hadrodd, fel y bo'n briodol.
Sicrhau bod darpariaeth yn bodloni polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau AGC. Bod yn gyfrifol am hunanwerthuso'r ddarpariaeth yn unol ag arweiniad AGC a/neu Estyn
Bod yn gyfreithiol gyfrifol fel y 'Person â Chyfrifoldeb' o dan reoliadau AGC. Bod yn gyfrifol am gynllunio, adolygu a chyflwyno profiadau chwarae o ansawdd da / y cwricwlwm Dysgu Sylfaen a gyda gofal disgyblion, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol
ac ymddygiad. Bod yn gyfrifol am arsylwadau, asesiadau a chadw cofnodion rheolaidd, a darparu gwybodaeth berthnasol ar lafar/ysgrifenedig i gyfrannu at gynllunio a gwerthuso, er mwyn nodi camau nesaf dysgu'r plant. Bod yn gyfrifol am roi gwybod i rieni am gynnydd plant a darparu adroddiadau ysgrifenedig yn
ôl yr angen. Bod yn gyfrifol am reoli ymddygiad plant.
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod byrbrydau addas yn cael eu darparu a'u paratoi a bod amser bwyd yn cael ei oruchwylio, gan gydymffurfio â rheoliadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon