MANYLION
  • Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 29,269 - 31,364 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Mentor Cymorth Cyflogadwyedd

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 29,269 - 31,364 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio Mentor Cymorth Cyflogadwyedd i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ar sail amser llawn dros dro.

Am y rôl

Gweithio o fewn y gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant i gynorthwyo gyda chynllunio, cefnogi, ac ymgymryd â gweithgareddau penodol a gwaith mentora cymunedol o safon i drigolion di-waith Ceredigion.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • helpu cyfranogwyr i nodi rhwystrau posibl i gyflogaeth.
  • dylunio, datblygu a chydlynu ystod o ddulliau arloesol ar gyfer cyfranogwyr
  • cynnwys cyfranogwyr mewn cyfleoedd, gweithgareddau, a dysgu achrededig cysylltiedig â gwaith
  • meithrin cydberthnasau ag ystod eang o sefydliadau partner i ddarparu gwasanaeth cydlynol
Bydd gwasanaethau arbenigol yn cynnwys gwasanaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, y Ganolfan Byd Gwaith, cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau cymorth camddefnyddio cyffuriau a sylweddau yn ogystal â sefydliadau trydydd sector.

Ein hymgeisydd delfrydol

Rydym am recriwtio unigolyn:
  • y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i gynghori, cefnogi ac ysgogi unigolion
  • agwedd anfeirniadol ac ymrwymiad i Gyfle Cyfartal
  • y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm, gan ddangos rheolaeth amser effeithiol
  • rhaid i chi feddu ar drwydded yrru gyfredol lawn ac mae mynediad i gerbyd yn hanfodol
Er bod profiad blaenorol yn ddefnyddiol nid yw'n hanfodol. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag ychydig neu ddim profiad. Byddwn yn sicrhau bod gennych yr holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r rôl yn hyderus.

Ein cynnig i chi.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol,cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%,buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyryma.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Cysylltwch

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch ag Emma Daniel ar 07976679859 neu e-bostiwch emma.daniel@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy