MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr/Glanhawr

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Clawdd Wat

Garden Village

Wrecsam

LL11 2TE

01978 355731

Mrs Fay Green, Pennaeth

GOFALWR

G04 - £14,819 27.5 awr yr wythnos - 38 wythnos y flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Clawdd Wat yn dymuno penodi Gofalwr llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm o staff ymroddgar a brwdfrydig.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferol gyda'r gallu i'w ch/gymell ei hun ac agwedd gadarnhaol, sy'n gallu mynd ati i ofalu am ein hadeilad a safle'r ysgol i safon uchel.

Bydd y sawl a benodir yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel ac yn meddu ar y gallu i wneud mân atgyweiriadau cynnal a chadw, cynnal gwiriadau diogelwch yn ôl y gofyn a sicrhau bod cofnodion digonol yn cael eu cadw. Byddant yn sicrhau eu bod yn cael gwared ar wastraff yn effeithlon o'r adeilad ac oddi ar dir yr ysgol, gan gynnwys ailgylchu, a sicrhau bod y tu allan yn glir o chwyn, sbwriel a llanast.

Deiliad y swydd hon fydd yn bennaf gyfrifol am yr allwedd, a bydd hefyd yn gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am oruchwylio'r glanhawyr yn yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trefnu bod tu mewn yr ysgol yn cael ei lanhau i safon uchel ac yn sicrhau bod stoc yn cael ei ailgyflenwi pan mae angen.

Mae profiad yn ddymunol, fodd bynnag gellir darparu hyfforddiant.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth i gael rhagor o wybodaeth.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener, 16 Awst