MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysg dan Hyfforddiant

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Seicolegydd Addysg dan Hyfforddiant

£29,872 - £37,473 per annum
Mewnol yn unig
Rydym yn croesawu ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant brwdfrydig a medrus i wneud cais am y rôl Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gael lle ar gwrs Doethuriaeth mewn Seicoleg Plant ac Addysg ac mae'n rhaid iddyn nhw ddechrau ar eu doethuriaeth ym Medi 2024.

Ym mlwyddyn gyntaf y ddoethuriaeth bydd yr ymgeisydd yn derbyn bwrsariaeth fechan a fydd yn talu eu ffioedd ar yr amod eu bod nhw'n llwyddo yn eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant. Yn ail a thrydedd flwyddyn o hyfforddiant y ddoethuriaeth mae'r swydd yn cael ei hystyried i fod yn llawn amser gan ymgorffori astudiaethau a phresenoldeb yn y brifysgol yn ogystal â chyflawni'r holl dasgau sy'n angenrheidiol gan Seicolegydd Addysg dan Hyfforddiant ar leoliad.

Bydd gennych Wiriad DBS Uwch a hefyd trwydded yrru a mynediad i drafnidiaeth er mwyn teithio ar draws yr ALl i gynnig y gwasanaeth o'r safon uchaf i blant a phobl ifanc, ysgolion a gwasanaethau Wrecsam a'r Awdurdod Lleol ei hun.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.