MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Nofio Ysgolion (Dros Dro)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G04, £12.18 yr awr

Dros Dro 31/08/2025

I gyflwyno gwersi nofio ysgolion ledled Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Wrecsam.

Mae'r Awdurdod yn dymuno cyflogi athro nofio ysgolion yn arbennig i addysgu gwersi nofio ysgolion ym mhyllau nofio Wrecsam rhwng bob dydd. Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar Gymhwyster Addysgu Nofio Lefel 2 ASA a naill ai Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywyd mewn Pyllau RLSS neu Ddyfarniad Prawf Achub ar gyfer Athrawon RLSS (neu gyfatebol), a byddant yn gallu arddangos sgiliau trefnu da. Rhaid i bob ymgeisydd allu cyfathrebu'n ardderchog a bod yn aelod o dîm ac arddangos lefel uchel o wybodaeth ac ymrwymiad tuag at addysgu nofio.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.