MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: PRC-URC
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Cymraeg a Celf

Cyngor Wrecsam

Cyflog: PRC-URC

Ynglŷn â'r Rôl
Gwybodaeth am yr Adran Gymraeg a'r Adran Gelf

Mae'r adran Gymraeg yn un o adrannau pwysicaf yr ysgol fel ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd yn adran lwyddiannus iawn. Addysgir y pwnc i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 a bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda chymhwyster TGAU yn y pwnc. Mae niferoedd iach yn dewis y pwnc yn y chweched ac mae canlyniadau'r adran yn gyson dda. Mae 7 athro/wes arbenigol yn dysgu'r pwnc a 2 athro/wes arall yn cyfrannu tuag at ddysgu CA3 o dan arweiniad ardderchog pennaeth yr Adran, Mrs Eurgain Hughes. Mae 6 ystafell ddysgu braf yn yr Adran ynghyd a swyddfa a stordai ar gyfer yr Adran. Mae adnoddau TGCH penodol i'r adran yn ogystal a mynediad i adnoddau ysgol gyfan.

Mae'r adran Gelf yn un o adrannau fwyaf llwyddiannus yr ysgol. Mae'n bwnc poblogaidd gyda myfyrwyr TGAU a Lefel A ac mae canlyniadau'r adran ymysg yr uchaf yn yr ysgol bob blwyddyn. Mae dau aelod o staff llawn amser yn yr adran ond gyda chynnydd yn nifer ein disgyblion, mae galw am athro/wes arall i ymuno â'r tîm. Mae dwy ystafell ddysgu fawr, fodern yn yr adran, a rhennir rhai cyfleusterau a thechnegydd gyda'r adran Dechnoleg. Mae ystafell dywyll ac olwyn grochenwaith ar gael yn ogystal ag offer cyfrifiadurol.

Prif ddyletswydd Athro / Athrawes Cymraeg a Chelf yw addysgu'r ddau bwnc i ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 yn bennaf. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gynllunio gwersi yn unol a chynlluniau gwaith manwl y ddwy adran ac asesu'r gwaith yn unol a pholisiau marcio'r ddwy adran. Bydd yr athro/wes yn atebol i bennaeth yr adran Gelf a phennaeth yr Adran Gymraeg. Bydd athro/wes newydd gymhwyso o dan ofal Mentor Sefydlu.

Penodir yn unol ag amodau cyflogaeth cyfredol athrawon ysgol sydd wed-i'u cynnwys yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, a'r safonau proff-esiynol newydd ar gyfer athrawon (Cymru).

Am rhagor o wybodaeth gwiriwch y pecyn swydd.

Dyddiad Cau 15/5/26

Cyfweliadau 21/5/26

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 75 yn y chweched dosbarth.

Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.