MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £5,592
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyflog: £5,592

Ynglŷn â'r Rôl
Mae'r llywodraethwyr yn chwilio am lanhawr dros dro. 10 awr yr wythnos (2 awr y dydd, dydd Llun - dydd Gwener rhwng 3.10pm - 5.10pm), yn ystod y tymor yn unig

Dros dro tan 31/07/2027

Mae'r amrywiaeth o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, grisiau, swyddfeydd ac ardaloedd eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Busnes. Bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:

Gwneud yr holl waith i'r safon ofynnol, mor aml ag y nodir ac yn ôl cyfarwyddyd y gofalwr.
Rhoi gwybod i'r Gofalwr am unrhyw beth sy'n debygol o effeithio ar ei waith neu unrhyw beth y mae'n ystyried y dylai ef/hi fod yn ymwybodol ohono.

Gweithio ar y cyd â glanhawyr eraill ar y safle.

Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor, gan gynnwys COSHH.
Cadw loceri storio, cypyrddau a pheiriannau mewn cyflwr glân a thaclus.

Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd rhagnodedig, gan dderbyn cyfrifoldeb am yr offer a ddefnyddir a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a'u storio'n ddiogel.

Cwblhau unrhyw waith papur gofynnol gan gynnwys taflenni amser.

Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae angen gwiriad GDG Manwl ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.