MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata Cyflog Gwirioneddol (yn seiliedig ar 40 wythnos a weithiwyd) - £17,932 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata Cyflog Gwirioneddol (yn seiliedig ar 40 wythnos a weithiwyd) - £17,932 y flwyddyn
Cynorthwyydd Arlwyo (Siop Goffi)Disgrifiad o'r swydd Cynorthwyydd Arlwyo (Siop Goffi)
Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata
Cyflog Gwirioneddol (yn seiliedig ar 40 wythnos a weithiwyd) - £17,932 y flwyddyn
32.5 awr yr wythnos
(8.15 am i 3.15 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 40 wythnos yn ystod y tymor yn unig)
Lleoliad: Campws Pencoed - Academi STEAM
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Arlwyo i ymuno a thim arlwyo bywiog a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont yn ein Hacademi STEAM.
Byddwch yn cynorthwyo gyda pharatoi bwyd a diod (gan gynnwys coffi barista) a help gyda chynnal amgylchedd glȃn a ddiogel.
Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac rydych yn mwynhau gweithio yn y maes arlwyo, hoffem glywed gennych!
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.