MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Statws Athro Cymwysedig
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Medi, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes - Llythrennedd

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Statws Athro Cymwysedig

Athro / Athrawes - Llythrennedd
Swydd-ddisgrifiad
Eich cyfrifoldebau fydd:
1. Cyflawni'r holl ofynion a dyletswyddau fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgolion.
2. Addysgu amrywiaeth o feysydd pwnc o fewn y UCD a'r gwasanaeth Allgymorth. Lle bo'n briodol, cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith, deunyddiau a meysydd llafur yr adran.
3. Bod yn gyfrifol am gydlynu a datblygu maes pwnc a nodwyd ar draws y cwricwlwm. Efallai y bydd disgwyl i chi hefyd Hyrwyddo a datblygu llythrennedd, Rhifedd neu gymhwysedd Digidol ar draws yr UCD.
4. Sicrhau bod tystiolaeth o gynllunio priodol ar gyfer myfyrwyr unigol, sy'n ystyried arddulliau dysgu unigol, a datblygiad tuag at amcanion a nodwyd.
5. Sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal.
6. Datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda rhieni/gofalwyr, ysgolion ac asiantaethau / gwasanaethau ategol, o fewn protocolau clir yr UCD.
7. Cyswllt rheolaidd â staff UCD eraill ynghylch arholiadau cyhoeddus a chynnydd myfyrwyr.
8. Cyflawni dyletswyddau athro UCD mewn perthynas â disgyblion yn cynnwys:
a. datblygu perthnasoedd dysgu cadarnhaol.
b. sefydlu perthynas â disgyblion i ddatblygu eu potensial cymdeithasol, emosiynol ac academaidd a bod yn brif ffynhonnell gyfeirio ar gyfer eu problemau.
c. marcio cofrestrau dosbarth, gan sicrhau bod absenoldebau a hwyrni'n cael eu cofnodi a bod camau priodol yn cael eu cymryd lle bo angen.
d. llunio adroddiadau, proffiliau a chyfeiriadau ar ddisgyblion yn ôl yr angen.
9. Goruchwylio dyletswyddau disgyblion fel y manylir gan y Pennaeth.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon