MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn ar draws lefelau 1 (Cyflwyniad i Wasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn) hyd at Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch). Gallech fod wedi gwasanaethu yn y Gwasanaethau Cyhoeddus/Amddifyn sydd â Gwisg Swyddogol megis y Fyddin, y Llynges, yr Awyrlu, yr Heddlu, Brigâd Dân, Ambiwlans, Parafeddygon, Tollau a Excise a Diogelwch, neu wedi gweithio'n agos gyda'r sector mewn rhyw ffordd, e.e. ymchwilio/cydweithio/gweithio mewn partneriaeth. Y diffiniad o wasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yw gwasanaethau arfog, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a'r gwasanaethau carchar. Byddem yn croesawu ceisiadau gennych os ydych wedi gwasanaethu yn y sector A/NEU wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwn.Bydd y swydd yn gyfle i chi ddatblygu fel darlithydd ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn, o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau yn cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a dilysu sy'n gysylltiedig â'r dyletswyddau hyn. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch profiad i'r dysgu a'r addysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod y dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau a'r swyddi y gall dilyn cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn roi cyfle iddynt eu profi.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad o addysgu a phrofiad o'r diwydiant, un ai yn y lluoedd arfog neu mewn gwasanaeth cyhoeddus/gwasanaeth amddiffyn arall. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau hefyd gan arbenigwyr eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus/gwasanaethau amddiffyn sy'n awyddus i gymryd eu camau cyntaf i'r maes addysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/294/24
Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Hawl gwyliau wedi ei gynnwys yn y gradd yr awr a nodir uchod
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos
Dydd Llun - Tymor 2 (Nadolig i Haf) trwy'r prynhawn - pwnc -Gwaith Tîm ac Arweinyddiaeth
Dydd Mawrth - trwy'r flwyddyn trwy'r bore - pwnc Ymddygiad a Disgyblaeth
Dydd Mawrth - tymor 1 (Awst tan Ionawr) drwy'r prynhawn - pwnc -Gwaith Tîm ac Arweinyddiaeth
Dydd Gwener - trwy'r dydd, trwy'r flwyddyn - pwnc - Uned 5 Gwaith Tîm, Arwain a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
07 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)