MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa gyflog 5-PO2: £27,492 - £44,714 y flwyddyn pro rata
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Trainer in Tiling - 0.6FTE

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa gyflog 5-PO2: £27,492 - £44,714 y flwyddyn pro rata

Trainer in Tiling - 0.6FTE

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Teilsio

0.6 cyfwerth ag amser llawn a pharhaol

Graddfa gyflog 5-PO2: £27,492 - £44,714 y flwyddyn pro rata

(cyflog yn dibynnu ar gymhwyster)

Cyflog yn dibynnu ar gymwysterau:
Dim TAQA: Graddfa 5 (£27,492 to £30,185 y flwyddyn pro rata)

TAQA heb TAR: Graddfa 6 i SO1 (£31,174 - £36,915 y flwyddyn pro rata)

TAQA a TAR: SO2 i PO2 (£38,033 - £44,714 y flwyddyn pro rata)

Mae gennym gyfle cyffrous i Hyfforddwr Teilsio rhan amser i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Adeiladu gwych yng Ngholeg Penybont. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno ac asesu cymwysterau priodol, h.y. Teilsio, i fyny at Lefel 3.

Byddwch wedi'ch addysgu hyd at o leiaf NVQ Lefel 3 neu safon gyfatebol mewn Teilsio ac yn gallu dangos profiad helaeth o teilsio ymarferol, a sgiliau a gwybodaeth perthnasol . Dylech hefyd fod yn gymwys gyda Dyfarniadau Aseswr neu'n barod i ymgymryd â'r gymhwyster. Bydd profiad o hyfforddi/addysgu mewn lleoliad masnachol yn dymunol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol bydd gennych y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, a bod yn angerddol dros ysgogi pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Cyfweliad i'w gynnal ganol mis Awst 2024.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.