MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £29,269 - £31,364 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Ymgysylltu a Chyfathrebu

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £29,269 - £31,364 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Ymunwch â'n tîm deinamig yn Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwyendd,lle rydym yn ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yn ein cymuned. Ein cenhadaeth yw grymuso ieuenctid, cynyddu eu lleisiau, a sicrhau eu bod

yn cael y cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ffynnu. Rydym yn chwilio am Gydlynydd Ymgsysylltu a Chyfathrebu brwdfrydig a rhagweithiol i'n helpu i gyflawni'r nodau hyn.Fel cydlynydd Ymgysylltu a Chyfathrebu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu a gweithredu rhaglenni

a mentrau sy'n ymgysylltu ac yn cefnogi pobl ifanc ar draws Cyngor Gwynedd. Byddwch yn gweithio'n agos gydag ieuenctid, sefydliadau lleol, a rhanddeiliaid eraill i greu amgylchedd bywiog a chynhwysol lle mae lleisiau pobl ifanc

yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steffan Llyr Williams ar 07702479672

Rhagwelir cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 29/07/2024

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Y gallu i weithio fel rhan o dîm integredig sy'n cyfrannu at amcanion ehangach y gwasanaeth, ac yn cefnogi datblygiad gwelliant gwasanaeth parhaus

Tystiolaeth o sgiliau rhyngbersonol a threfnu da

Brwdfrydedd, ymrwymiad, ac ymagwedd hyblyg
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Gradd mewn Gwaith Ieuenctid neu ddisgyblaeth arall sy'n ymwneud ag Ieuenctid.

TGAU mewn Cymraeg a Saesneg
Dymunol
NVQ lefel 4 neu gyfystyr mewn maes perthnasol megis marchnata, gweinyddiaeth, cyfryngau, cyfatherbu

Wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel Gweithiwr Ieuenctid.

Cymwysterau eraill sy'n berthnasol i Waith Ieuenctid.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o brosesau ymgynghorol a chyfranogol mewn gwaith gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc.

Profiad o gynllunio, datblygu a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau ymgynghori.

Dealltwriaeth gadarn o anghenion cyfranogiad pobl ifanc.

Dealltwriaeth gadarn o hawliau/materion pobl ifanc.
Dymunol
Profiad o gynhyrchu adroddiadau, gan gynnwys adroddiadau ariannol, sy'n adlewyrchu targedau gweithredol ac yn defnyddio data ac ystadegau allweddol i lywio cynnydd a chynllunio.

Profiad o gynllunio a datblygu deunyddiau sy'n gyfeillgar i bobl ifanc megis dehongli strategaethau a chynlluniau.

Gwybodaeth ymarferol o'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.

Gwybodaeth am weithdrefnau iechyd a diogelwch mewn lleoliad gwaith ieuenctid.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gallu i ysgrifennu yn gywir ac eglur yn y Gymraeg a'r Saesneg

Ymrwymiad i gynnwys pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel o Gyngor Gwynedd

Gallu defnyddio cyfrifiadur a meistrolaeth o raglenni syml, e.e Microsoft Office

Dealltwriaeth o gyfryngau cymdeithasol amrywiol, a gallu i'w defnyddio i dargedu cynulleidfa ifanc
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Cynorthwyo swyddog hyfforddiant gyda'r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu, cynlluniau ymgysylltu a chynlluniau i hyrwyddo gwasanaethau'r Cyngor.

• I gynorthwyo, cysylltu â goruchwylio cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer yr Adran ar y cyd â'r Uned Cyfathrebu Corfforaethol

• Datblygu ystod lawn o gyhoeddusrwydd a deunydd marchnata ar gyfer gwella cyfathrebu mewnol ac allanol yr Adran.

• Yn gyfrifol am gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad pobl ifanc ar draws Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid Marchnata Gwasanaeth Ieuenctid

• Cyllid Fforwm Ieuenctid

• Gliniadur
Prif ddyletswyddau
• Cefnogi'r gwaith o lunio a gweithredu cynllun cyfathrebu a chynllun ymgysylltu y Gwasanaeth Ieuenctid

• Cefnogi'r gwaith o hyrwyddo Rhaglen Gweithgareddau a Phrosiectau, Clwb Ieuenctid Gwynedd a'r Gwasanaeth Ieuenctid i ystod o gynulleidfaoedd mewnol (staff a chynghorwyr) ac allanol (pobl Gwynedd yn gyffredinol a grwpiau penodol yn ôl yr angen).

• Ymchwilio, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg ac erthyglau ar gyfer eu dosbarthu i'r cyfryngau lleol a chenedlaethol.

• Sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd dda ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu.

• Gweithredu amrywiaeth o dechnegau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil i'r farchnad er mwyn cyrraedd darpar ddefnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys rhai sy'n anodd eu cyrraedd.

• Bod yn gyfrifol am wefannau mewnol ac allanol y Gwasanaeth gan sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru a'u cynnal yn unol â gweithdrefnau ysgrifenedig.

• Cychwyn, datblygu, golygu a dosbarthu newyddlenni yn ôl yr angen.

• Cynhyrchu cyhoeddiadau gwasanaeth, taflenni a deunyddiau hyrwyddo eraill, gan gynnwys cyflwyniadau, seminarau ac arddangosfeydd. Cynorthwyo, fel sy'n angen wrth ymdrin ag ymholiadau ffôn cyffredinol.

• Cynorthwyo'r tîm i baratoi a dosbarthu deunyddiau cyhoeddusrwydd yn ôl yr angen.

• Cyfrifoldeb dros sefydlu, amserlennu a chynnal Fforwm Ieuenctid Gwynedd er mwyn derbyn mewnbwn a rhoi adborth ar benderfyniadau strategol y Cyngor drwy'r flwyddyn.

• Arwain ar ymgysylltu gydag ysgolion / sefydliadau a grwpiau er mwyn sicrhau cyfraniad a mewnbwn cynrhychiolaeth eang o blant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd.

• Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc Gwynedd ymgyfarwyddo â'r drefn wleidyddol Lleol a Chenedlaethol.

• Hyrwyddo a chydlynnu'r broses o ymgysylltu gyda plant a phobl ifanc ar draws Gwynedd gan adrodd i grwpiau a phwyllgorau o fewn y Cyngor.

• Hwyluso pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a'u hyder fel bod cyfranogiad a chyfraniad yn cael eu huchafu a'u bod yn gallu mynegi eu barn.

• Bod yn hyrwyddwr ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc, gan fabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person ifanc drwy Waith Ieunectid.

• Gweithio gyda tîm cyfathrebu y Cyngor i hyrwyddo cyfleoedd a ymrwymiad pobl ifanc i allu rhannu ei straeon.

• Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Ar adegau bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fo ar gael ar benwythnosau er mwyn mynychu digwyddiadau penodol

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi