MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, All Wales, NP7 5DS
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Rhaglen Fentora (Rhanbarthol)

Fyddin yr Iachawdwriaeth
Sylwer: Mae hon yn swydd ar gyfer Cyfnod Penodol o 2 flynedd.

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos gyda nosweithiau a phenwythnosau achlysurol

Dyddiad Cyfweliad: 13 Awst 2024

Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd Rhaglen Fentora a fydd yn gweithio i ehangu rhaglen Starfish Byddin yr Iachawdwriaeth ar draws y Cynefin Dwyreiniol* o fewn Adran Cymru. Rhaglen fentora yw Starfish sydd wedi'i chynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion rhwng 9 ac 16 oed. Gan weithio oddi mewn i wasanaeth cymorth lles disgyblion ysgol, mae Starfish yn darparu oedolion ymroddedig a dibynadwy (mentoriaid)
i weithio gyda phobl ifanc sydd angen Cymorth Cynnar ac a fyddai mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial llawn hebddo. Gall eu hanghenion a nodwyd ymwneud â'u hiechyd, eu datblygiad addysgol neu gymdeithasol.

*Y Cynefin Dwyreiniol yw Rhanbarth De-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys mynegiannau Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Fenni, Abertyleri, Cwm, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pwl a Risca

Cyfrifoldebau Allweddol:

Sefydlu a thyfu'r Rhaglen Fentora Ysgolion Starfish mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol gan sicrhau darpariaeth a monitro effeithlon ac effeithiol.
Recriwtio a chefnogi mentoriaid Starfish gwirfoddol o gyrff lleol Byddin yr Iachawdwriaeth ac eglwysi eraill yn unol â chanllawiau gwirfoddolwyr Byddin yr Iachawdwriaeth a Safe & Sound.
Cefnogi a goruchwylio cydlynwyr/mentoriaid gwirfoddol gan gynnwys nodi a hwyluso hyfforddiant perthnasol.
Goruchwylio holl atgyfeiriadau disgyblion i'r rhaglen, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth ac adroddiadau perthnasol yn cael eu cyflwyno i ysgolion. Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol pan fo angen.
Darparu mentora un-i-un gyda disgyblion i gynyddu cyfranogiad mewn addysg, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles emosiynol gan gynnwys datblygiad personol a sgiliau bywyd, dan arweiniad dull Ymarfer ar sail Trawma.
Bydd gan yr ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus y canlynol:-

Gradd gyda chymhwyster perthnasol mewn gwaith plant neu ieuenctid a/neu brofiad helaeth o weithio gyda phlant ac ieuenctid mewn addysg 9-16 oed a neu yn y gymuned ehangach. Bydd ymgeiswyr sydd â sgiliau trosglwyddadwy/perthnasol hefyd yn cael eu hystyried.
Gwybodaeth am faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc (e.e. addysg, tlodi, iechyd meddwl, tirwedd greadigol a ddiwylliannol).
Sgiliau pobl ardderchog gyda phrofiad helaeth o reoli staff a gwirfoddolwyr a gweithio gyda phlant a phobl ifanc (unigolion a grwpiau).
Y gallu i greu a chynnal gweithgareddau mentora cadarnhaol sy'n briodol i'w hoedran.
Hygrededd, hyder a sgiliau i gynrychioli Byddin yr Iachawdwriaeth yn briodol ac yn broffesiynol mewn amrywiaeth o leoliadau a gallu datblygu cyfleoedd partneriaeth cryf ac effeithiol a pherthnasau a fydd yn ymestyn cyrhaeddiad ac effaith rhaglen Starfish ar draws ardal eang.
Profiad o fonitro a gwerthuso effeithiol i gynyddu effeithiolrwydd.
Mae gan y rôl hon ofyniad galwedigaethol sef bod yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn Gristion ymroddedig ac ymarferol a chydymdeimlo ag athrawiaethau a bod yn gefnogol i amcanion a nodau Byddin yr Iachawdwriaeth.

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Yn y proffil swydd fe welwch y meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Gwnewch yn siwr eich bod yn eu trafod yn eich datganiad ategol gan fod hyn yn sail i'n rhestr fer.

Mae penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol, prawf o'r hawl i weithio yn y DU a gwiriad boddhaol DBS Uwch gyda Rhestr Wahardd o'r Gweithlu Plant.

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynharach os ydym o'r farn bod digon o geisiadau wedi eu derbyn.

Sylwch y bydd unrhyw weithwyr Byddin yr Iachawdwriaeth sydd dan rybudd o ddiswyddo ac sy'n gwneud cais am y swydd hon yn cael ystyriaeth flaenoriaethol.

Gan ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun arweinwyr anabledd hyderus, rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag hon.