MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: L10 – L16
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Medi, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L10 – L16
Pennaeth (Ysgol Gynradd Llanandras)Swydd-ddisgrifiad
PENODI PENNAETH
Swydd llawn amser - gofynnol ar gyfer 1af Ionawr 2025,
Cyflog L10 - L16
NOR 171
Mae'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi olynydd brwdfrydig ac ymroddedig i gynnal a datblygu'r ysgol gynradd flaengar, arloesol hon. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu eu profiad a'u sgiliau arwain ymhellach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canfod:
- Ysgol boblogaidd, lwyddiannus, flaengar a deniadol.
- Ysgol sydd â hanes o gynnal lefel uchel o ganlyniadau dysgwyr, sy'n dangos gwytnwch ar bob lefel ac sy'n cwrdd â'r her i symud ymlaen a chynnal rhagoriaeth.
- Ysgol greadigol sy'n arloesol yn ei datblygiad tuag at y Cwricwlwm Newydd
- Ysgol hapus, lle mae'r plant yn ymddwyn yn dda, yn gweithio'n galed ac yn llawn cymhelliant i wneud eu gorau.
- Ysgol sydd â hanes rhagorol o gyflawniad academaidd a gofal am les disgyblion
- Tîm brwdfrydig iawn o athrawon rhagorol, gyda chymorth cynorthwywyr addysgu ymroddedig.
- Ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau ardderchog.
- Amgylchedd hardd mewn tref hyfryd, ac mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
- Llywodraethwyr, rhieni a chymuned gefnogol a Chymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau llawn bwrlwm.
- Sgiliau arweinyddiaeth wedi eu profi sy'n cymell staff a disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial.
- Sgiliau dysgu rhagorol.
- Bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion a staff.
- Profiad o reoli ariannol.
Gellir trefnu ymweliadau drwy gysylltu â gweinyddwr yr ysgol
Dyddiad cau: Dydd Gwener 6 Medi 2024
Rhestr fer i'w chynnal ddydd Mawrth 10 Medi 2024
Cyfweliadau i'w cynnal ar 24 Medi 2024
Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).