MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: G04 pwynt 8-11 £18,192 - £19,133 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 Dros Dro - Ysgol San Sior
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: G04 pwynt 8-11 £18,192 - £19,133 y flwyddyn
YSGOL SAN SIORYsgol Eglwys Wirfoddol a Gynorthwyir
Church Walks, Llandudno, LL30 2HL
Rhif Ffôn: 01492-878149
Pennaeth: Mr Carl Fitter
Yn eisiau erbyn mis Medi 2024
Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 Dros Dro
(Contract dros dro hyd at 31/08/2025)
Oriau: 32 ½ awr yr wythnos - Tymor Ysgol yn unig
Cyflog: Gradd NJC G04 pwynt 8-11 £18,192 - £19,133 y flwyddyn
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro, i gefnogi disgyblion yng Nghyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol i'r swydd yma.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar 01492 878149
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English.