MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo Parhaol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cynorthwyydd Arlwyo Parhaol,

Barkers Lane / Wrexham

G02 pwyntiau 1
£11.59 yr awr

12.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig

Rydym am benodi cynorthwyydd arlwyo parhaol i gynorthwyo â dyletswyddau yn y gegin a'r ystafell fwyta yn yr ysgol uchod.

Prif Ddyletswyddau i gynnwys:-

1 - Paratoi diodydd a bwyd sylfaenol e.e. paratoi llysiau, eitemau salad, a ffrwythau ac ati.
2 - Coginio syml e.e. paratoi byrbrydau
3 - Dyletswyddau cyffredinol y gegin a'r ystafell fwyta e.e. golchi'r llestri, symud byrddau a chadeiriau'r ystafell fwyta, a chlirio'r ystafell fwyta.
4 - Glanhau'r gegin, yr offer, a chyffiniau'r gegin.
5 - Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cyfateb â natur gyffredinol a graddfa'r swydd yn ôl y Cogydd ar ddyletswydd.
6 - Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais oddi wrth: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.