MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £25,583 - £25,989
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr - Ysgol Bryn Alyn

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £25,583 - £25,989

Ynglŷn â'r Rôl
Rydym yn chwilio am Ofalwr dibynadwy a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ysgol uwchradd, gan chwarae rhan hanfodol wrth gynnal amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i'n myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy'n ymfalchïo yn ei waith ac sy'n mwynhau bod yn rhan o gymuned ysgol gefnogol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithrediad safle'r ysgol o ddydd i ddydd, gan gynnwys agor a chau'r safle, mân waith cynnal a chadw ac atgyweirio, a sicrhau bod yr adeiladau a'r tir yn cael eu cadw mewn cyflwr da. Byddwch hefyd yn cefnogi diogelwch y safle, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ac yn cynorthwyo gyda pharatoi mannau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau ysgol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau ymarferol da, sy'n weithgar iawn, ac sydd â'r gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm. Byddai profiad blaenorol o waith ofalu neu gynnal a chadw yn fanteisiol, ond mae agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu yr un mor bwysig. Byddai'r rôl hon yn arbennig o addas i rywun sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes rheoli cyfleusterau, gan gynnig profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylchedd prysur ac amrywiol.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cyfeillgar, cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad, a'r cyfle i wneud cyfraniad ystyrlon i ysgol uwchradd ffyniannus.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.