MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 4 | SCP 7-10 | £24,294 - £25,545 PRO RATA
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 4 | SCP 7-10 | £24,294 - £25,545 PRO RATA
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.Swydd 1 flwyddyn i ddechrau
Cychwyn Medi 2024
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod gwaith rhwng 8.15yb - 3:15yp*. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).
Mae'r cyflog ar gyfer rôl yn unol â Graddfa Gyflog 4 Torfaen £24,294 - £25,545 pro-rata.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Mae'r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i'n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych ar ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a'n trefniadaeth gyffredinol.
Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol eithriadol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda'r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.
Prif gyfrifoldebau:
- Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth CADY neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion.
- Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu
- Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.
Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i'r ymgeisydd llwyddiannus:
Gweithio gyda dysgwyr gydag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu
Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar
Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi
Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff
Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.
Oherwydd anghenion yr unigolyn byddwch yn cefnogi byddai'r swydd hon yn fwy addas ar gyfer ymgeisydd gwrywaidd.
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a'i ddychwelyd atom erbyn 12pm dydd Llun, 15fed o Orffennaf.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Bennaeth Gwethredol, Helen Rogers.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae'r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.