MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Teacher’s Pay Scale + TLR 2.1 Allowance, £3,590 
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Arweiniol - Ysgol Gorllewin Mynwy

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teacher’s Pay Scale + TLR 2.1 Allowance, £3,590 

Dyddiad Dechrau: Medi 2026

Graddfa Gyflog Athrawon + Lwfans CAD 2.1, £3,590

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

yn dymuno penodi Ymarferydd Arweiniol deinamig sy'n llawn ysbrydoliaeth i ymuno ag arweinwyr cyfadran Mathemateg. Mae gan y Maes Dysgu a Phrofiad hwn hanes cadarn o ran canlyniadau disgyblion, mae ganddo adnoddau da a thîm staff profiadol iawn ac mae wedi ei leoli mewn cyfres o ystafelloedd dosbarth a ailwampiwyd yn ddiweddar. Mae rôl yr Ymarferydd Arweiniol o fewn ein strwythur yn swydd arwain ac mae'r ffocws sylfaenol ar ddatblygu addysgu a dysgu o fewn cyfadrannau. Mae gan ein Hymarferwyr Arweiniol y dasg o yrru arloesi mewn addysgeg ar draws eu cyfadrannau a'r ysgol yn ehangach. Felly, disgwylir iddynt fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r ymchwil addysgol ddiweddaraf ac wrth chwilio am gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol yn fewnol ac yn allanol. Rydyn ni'n chwilio am athro/athrawes sy'n rhagorol ac sydd ag ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o'r ansawdd uchaf ar gyfer y disgyblion yn eu gofal; a'r gallu i ysgogi pob disgybl i lwyddo mewn Mathemateg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y potensial i ddod yn arweinydd ysbrydoledig hefyd, a all ysgogi a chefnogi eu tîm i gofleidio newid yn llwyddiannus. Mae profiad o addysgu Mathemateg ar draws ystod oedran a gallu 11-16 oed yn hanfodol a byddai cyfraniad blaenorol at weithgarwch arweinyddiaeth ganol hefyd yn fanteisiol, er nad yw'n hanfodol.

Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r cyffiniau. Mae'r ysgol wedi ehangu'n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 1200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. font-size:12pt">Anogir pob darpar ymgeisydd i weld y wefan… font-size:12pt"> www.westmonmouthschool.org.uk

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. font-size:12pt">Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.