MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: swyddog polisi a chynllunio
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Polisi a Chynllunio

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio fel rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am arwain gwaith polisi a chynllunio CGA, bydd y Swyddog Polisi a Chynllunio yn cynnal gwybodaeth gyfredol o ddatblygiadau allweddol o fewn y sector addysg, ymgymryd ag ymchwil, casglu gwybodaeth, a chynorthwyo i ddatblygu a drafftio dogfennau polisi fel ymatebion ymgynghori a chanllawiau arfer da ar gyfer cofrestreion. Bydd y Swyddog Polisi a Chynllunio hefyd yn cynorthwyo i baratoi a monitro prosesau cynllunio mewnol CGA i gefnogi ei amcanion strategol, gweithredol a chydraddoldeb.


JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar, a phrofiad o ddatblygu a chynnal prosesau gweinyddol, a threfnu a hwyluso cyfarfodydd. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a rheoli amser ardderchog, gyda'r gallu i goladu gwybodaeth a data amrywiol. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol i’r swydd.
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gweithio hybrid, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).