MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Cefnllys)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Cefnllys)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.

Learning Today To Shape Tomorrow ~ Dysgu Heddiw er Mwyn Llunio Yfory

Ffôn / Tel: (01597) 822 297

E-bost / E-mail: [email protected]

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd)

Parhaol - i ddechrau mis Medi 2024

5 awr yr wythnos

Mae swydd ar gael ar gyfer Goruchwyliwr Canol dydd i weithio dros oriau cinio rhwng 12.15 - 1.15 pm bob dydd yn ystod y tymor.

Bydd yr ysgol yn darparu hyfforddiant.

Rydym yn awyddus i benodi goruchwyliwr canol dydd brwdfrydig er mwyn goruchwylio, dangos arweiniad i a chefnogi ein plant yn ystod yr awr ginio. Bydd gofyn ichi sicrhau diogelwch, lles cyffredinol ac ymddygiad priodol ymhlith plant dros gyfnod cinio.
Rydym yn chwilio am unigolyn:
  • Brwdfrydig, llawn cymhelliant, gofalgar ei natur sy'n gallu meithrin a chefnogi plant yn ystod amser cinio
  • Sy'n chwaraewr tîm ymroddedig ac yn enghraifft ragorol i'r plant
  • Sy'n gallu cefnogi plant drwy eu helpu i gyd-chwarae, defnyddio eu dychymyg a dysgu rheoli eu risgiau eu hunain.
  • Sydd â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad
  • Sy'n gallu meithrin perthynas o barchu'r naill a'r llall gyda disgyblion a staff
  • Sy'n cael ei llywio gan bolisi cyfrinachedd yr ysgol
Bydd y broses penodi'n cynnwys cyfweliad a bydd gofyn cael gwiriad y GDG.
Mae'r Corff Llywodraethu a'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac maent yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r un ymrwymiad.

Rydym yn croesawu ac yn annog ymweliadau â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01597 822297 er mwyn trefnu ymweliad.

Gweler y swydd ddisgrifiad lawn am fanylion pellach

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 20/09/2024
Dyddiad creu rhestr fer: 23/09/2024
Cyfweliadau: 03/10/2024