MANYLION
- Lleoliad: Cardigan,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 23,114 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: 23,114 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i'n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb llawn amser yn Ysgol Gymunedol Penparc.
Mae Ysgol Gymunedol Penparc yn gymuned gofalgar a hapus, sydd yn rhoi pwyslais uchel ar ofal a lles er mwyn cynorthwyo ac atgyfnerthu cynnydd ar bob lefel. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ger tref Aberteifi, Ceredigion. Mae 107 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol.
Mae'r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda'r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno â thim llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y Dysgu Sylfaen, ac o bosibl yn CA2 ar adegau.
Fe fydd gofyn i chi:
- oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
- sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion, gan ryngweithio yn unol a'u hanghenion unigol
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes
- cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol
- hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad i'r holl ddisgyblion
- annog disgyblion i weithredu'n annibynnol, fel y bo'n briodol
- byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond ddim yn reidrwydd
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- dealltwriaeth gyffredinol o'r cwricwlwm cenedlaethol/cyfnod sylfaen a rhaglenni/strategaethau dysgu sylfaenol eraill
- gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dim, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
- CGC2 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb
I gydnabod eich sgiliau a'ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr yma. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rol hon yn gyflym ac yn hyderus.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Trystan Phillips ar prif@penparc.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant