MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Plas Coch

Ffordd Stansty,

Wrecsam,

LL11 2BU

01978 311198

mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mr. Osian Jones

Nifer ar y gofrestr: 306

Cymhorthydd Lefel 1 - £7692

Swydd rhan amser (boreau yn unig) dros dro

Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi cymhorthydd addysgu i weithio yn yr ysgol.

Swydd dros dro, tan tymor yr haf 2025, boreau yn unig gan gychwyn ar Medi 1af 2024 neu cyn gynted a phosib ar ôl hynny

Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Plas Coch wedi'i lleoli ar gyrion tref Wrecsam.

Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a'r plant sy'n cyfrannu'n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Mae adroddiad diweddaraf Estyn am yr ysgol ar gael drwy:

https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2022-08/Adroddiad%20arolygiad%20Ysgol%20Plas%20Coch%202022.pdf

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr rhugl eu Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod neu drwy ebostio mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

ANFONWCH Y FFURFLENNI CAIS YN ÔL WEDI EU LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch

(Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

DYDDIAD CAU: 16:07:24

DYDDIAD CYFWELIADAU: i'w gadarnhau